Chwilio am ysgolion a cholegau yn y DU ar Yell.com
Bydd y canlyniadau'n ymddangos yn Saesneg
Mae sawl math o ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn y DU. Fel arfer, mae ysgolion y wladwriaeth yng ngofal awdurdodau lleol. Cofrestrir ysgolion annibynnol, a adwaenir hefyd fel ysgolion bonedd, gan yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES), ond maent yn pennu eu cwricwlwm a'u meini prawf eu hunain ar gyfer derbyn disgyblion. Mae hefyd sawl math gwahanol o goleg, gan gynnwys colegau chweched dosbarth, colegau celf, colegau amaeth, colegau technoleg, a cholegau trydyddol. Mae colegau ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gorffen eu TGAU, ond sydd am barhau i astudio y tu allan i amgylchedd ysgol.
Awgrymiadau defnyddiol
- Ni chewch fynediad i ysgolion cynradd ac uwchradd y wladwriaeth yn awtomatig. Mae angen cyflwyno cais mewn da bryd.
- Gall y DfES ddarparu canlyniadau arholiadau ac adroddiadau Ofsted ar gyfer ysgolion a cholegau unigol y wladwriaeth, ac ar gyfer ysgolion annibynnol.
- Gallwch gyflwyno cais i'ch plentyn gael mynd i'ch dewis o ysgol gynradd neu uwchradd y wladwriaeth, boed hynny'r tu mewn neu'r tu allan i'r “ardal ddalgylch” lle rydych yn byw. Fodd bynnag, gall ysgolion poblogaidd y wladwriaeth roi blaenoriaeth i blant sy'n byw gerllaw.
- Gwnewch apwyntiad i ymweld ag ysgolion a cholegau chweched dosbarth i'ch helpu i benderfynu i ba rai y dylech gyflwyno cais.
- Mae rhai o ysgolion y wladwriaeth yn y DU yn dal yn ysgolion gramadeg, lle derbynnir disgyblion ar sail arholiad a chyfweliad.
- Mae ysgolion annibynnol neu ysgolion bonedd yn gofyn bod rhieni'n talu ffioedd, ac yn pennu eu meini prawf derbyn eu hunain. Maent yn aml yn ysgolion preswyl. Os ydych am i'ch plentyn fynd i ysgol un rhyw, fe gewch fod llawer ohonynt yn annibynnol, tra bod mwyafrif yr ysgolion cydaddysgol yn ysgolion y wladwriaeth, er bod eithriadau.
- Mae sawl ysgol yn y DU sy'n cael eu disgrifio fel ysgolion rhyngwladol. Mae ysgol ryngwladol yn addysgu cwricwlwm gwlad benodol i'w myfyrwyr, er enghraifft, cwricwlwm America.
Sut gall Yell.com fy helpu?
Gallwch ddefnyddio Yell.com i ddod o hyd i ysgolion a cholegau ar draws y DU. Y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw nodi unrhyw leoliad yn y DU, megis Llundain, Birmingham, Manceinion neu Leeds, yn y blwch chwilio uchod.
