Chwilio am dacsis a cherbydau hurio preifat ar Yell.com


Bydd y canlyniadau'n ymddangos yn Saesneg

Defnyddir dau brif fath o dacsi a cherbyd hurio preifat yn y DU. Gall cerbydau Hacni, a adwaenir hefyd fel cabiau du neu dacsis du, godi teithwyr sydd heb archebu taith ymlaen llaw. Ni all cabiau, neu gerbydau hurio preifat, godi teithwyr heblaw'r rheiny sydd wedi archebu taith ymlaen llaw neu sy'n mynd i'r swyddfa minicab i ddal tacsi oddi yno.


Awgrymiadau defnyddiol

  • Defnyddiwch dacsi neu finicab trwyddedig yn unig - edrychwch am y plât trwyddedu ar gefn y cerbyd. Mae'n bosib na fydd yswiriant gan dacsi neu gerbyd hurio preifat sydd heb drwydded, ac mae'n bosib na fydd trwydded gan y gyrrwr.
  • Os ydych mewn unrhyw amheuaeth ynghylch trwydded gyrrwr eich tacsi neu'ch cerbyd, gofynnwch am weld ei fathodyn/bathodyn adnabod.
  • Mae cannoedd o wasanaethau tacsi a rhifau tacsi i ddewis ohonynt-yn aml bydd bwytai a gwestai'n hapus i archebu tacsi neu gerbyd hurio preifat dibynadwy ar eich rhan.
  • Peidiwch byth â mynd i mewn i gerbyd hurio preifat heb drefnu hynny ymlaen llaw (er y cewch wneud hynny gyda cherbyd hacni neu dacsi du) - mae gyrwyr ceir hurio preifat sy'n gwneud hyn yn torri'r gyfraith, ac mae'n bosib na fyddai'r yswiriant yn ddilys ar gyfer taith o'r fath.
  • Os bydd angen i nifer ohonoch ddefnyddio tacsi, neu mae gennych lawer o fagiau, eglurwch hynny wrth archebu tacsi, fel bod modd i'r cwmni tacsi neu hurio cerbyd anfon cerbyd addas.
  • Os ydych yn bwriadu defnyddio tacsi i fynd o'r maes awyr i'ch cyrchfan, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o leoliad y safle tacsis yn y maes awyr.


Sut gall Yell.com fy helpu?
I gael hyd i dacsi neu gerbyd hurio cyfleus, chwiliwch ar gronfa ddata Yell.com o gerbydau hurio preifat a thacsis.
Y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw nodi unrhyw leoliad yn y DU, megis Llundain, Birmingham, Manceinion neu Leeds, yn y blwch chwilio uchod. Defnyddiwch Yell.com i ddod o hyd i dacsis a cherbydau hurio preifat mewn miloedd o leoliadau ar draws y DU.

0845 calls cost up to 6p + 4p per minute from most landlines. Network charges may vary. Rates quoted subject to change.