Chwilio am asiantaethau cyflogi yn y DU ar Yell.com
Bydd y canlyniadau'n ymddangos yn Saesneg
Mae chwilio am swyddi gwag ar-lein yn dod yn fwyfwy poblogaidd, nid yn unig yn y DU, ond ar draws y byd. Does dim gwahaniaeth a ydych chi'n chwilio am swyddi gwag neu'n awyddus i hysbysebu swyddi yn eich cwmni chi, bydd asiantaeth gyflogi'n medru eich helpu.
Beth sydd gan asiantaeth gyflogi i'w gynnig i mi?
Os ydych chi'n chwilio am swydd:
- Mae llawer o asiantaethau cyflogi'n arbenigo mewn sectorau busnes penodol ac, os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn maes penodol, gallai fod o fudd i chi gysylltu â'r asiantaethau cyflogi hyn yn hytrach na mynd trwy asiantaeth gyffredinol;
- Cofiwch y dylai asiantaeth gyflogi dda wybod am y farchnad berthnasol a'r sgiliau y mae eu hangen ynddi er mwyn paru eich dyheadau â'r cyfleoedd sydd ar gael;
- Dylai'r asiantaeth gyflogi gysylltu â chi o fewn ychydig ddyddiau ar ôl derbyn eich manylion. Fodd bynnag, os na fyddwch wedi clywed unrhyw beth, gwiriwch fod yr asiantaeth gyflogi wedi eu derbyn;
- Cysylltwch â'r asiantaeth gyflogi o leiaf unwaith yr wythnos i sicrhau eu bod yn cofio amdanoch ac yn gweithio i ddod o hyd i swydd i chi;
- I sicrhau mwy o gyfle, peidiwch â'ch cyfyngu'ch hun i un asiantaeth gyflogi—cysylltwch â thair o leiaf;
- Wrth gysylltu ag asiantaeth gyflogi ar-lein, aseswch gyfrinachedd gwefannau asiantaethau cyflogi cyn cyflwyno manylion personol—mae mwyafrif yr asiantaethau cyflogi'n arddangos eu polisïau preifatrwydd a chyfrinachedd ar-lein;
- Dylai asiantaethau gadw at reoliadau gwarchod data, a dylech fedru darganfod pa mor hir bydd yr asiantaeth gyflogi'n cadw eich manylion;
- Byddwch yn ofalus wrth gyflwyno'ch manylion cartref personol i'r asiantaeth gyflogi ar-lein - efallai byddai'n well gennych ddarparu dulliau cyswllt eraill ar eu cyfer, megis cyfeiriad e-bost.
Awgrymiadau defnyddiol
Os ydych yn bwriadu ymweld ag asiantaeth gyflogi neu gysylltu ag un, gwnewch yn siwr:
- Eich bod yn gwisgo'n briodol. Mae'n arferol i bobl wisgo dillad busnes i ddangos eu bod yn drwsiadus.
- Os byddwch yn trefnu apwyntiad gydag asiantaeth gyflogi, eich bod yn cyrraedd 5 munud yn gynnar. Mae'n bwysig bod yn brydlon.
- Bod gennych gopi diweddar o'ch CV neu'ch braslun gyrfa gyda chi wrth ymweld â'r asiantaeth gyflogi.
Sut gall Yell.com fy helpu?
Mae gan Yell.com gronfa ddata helaeth o asiantaethau cyflogi mewn miloedd o leoliadau ar draws y DU, felly gwnewch yn fawr ohoni i gael hyd i'ch swydd ddelfrydol yn y lleoliad perffaith.
