Chwilio am Westai yn y DU ar Yell.com
Bydd y canlyniadau'n ymddangos yn Saesneg
P'un a ydych yn chwilio am westy pum seren neu lety gwely a brecwast syml, gall dod o hyd i rywle addas i aros, trefnu ystafell ac archebu gymryd tipyn o amser. Gall Yell.com eich helpu i gael hyd i westy, gwely a brecwast neu rywle arall i aros yn gyflym ac yn hwylus.
Beth sydd gan Westy i'w gynnig i mi?
Mae gwestai a llety gwely a brecwast yn cynnig rhai neu'r cyfan o'r gwasanaethau hyn:
- Llety dros nos mewn ystafell wely;
- Ystafell ymolchi en suite neu ystafell ymolchi a rennir;
- Brecwast, cinio neu bryd gyda'r hwyr;
- Bar neu lolfa y gallwch eu defnyddio;
- Cyfleusterau fel teledu, mini-far a sychwr gwallt yn y stafell;
- Cyfleusterau parcio.
Awgrymiadau defnyddiol
- P'un a fyddwch ar wyliau neu'n teithio ar fusnes, yn chwilio am westy pum seren, gwesty dwy seren neu rywbeth yn y canol, trefnwch le ymlaen llaw i osgoi problemau wrth gyrraedd.
- Mae gwestai'n derbyn eu statws, boed hynny'n bum seren, pedair seren, tair seren neu ddwy seren, ar sail y cyfleusterau sydd ganddynt. Gwestai pum seren yw'r rhai mwyaf moethus, a dylai gwestai dwy seren fod yn lân ond yn elfennol.
- Mae llety gwely a brecwast yn cynnig ystafell gyda brecwast yn y bore - fel arfer bydd hyn mewn ystafell ar wahân yn nhrigfan barhaol y perchennog.
- Gofynnwch am gadarnhad ysgrifenedig eich bod wedi trefnu llety bob tro.
- Gellir gofyn i chi am flaendal pan fyddwch yn trefnu llety, felly gwnewch yn siŵr fod eich manylion banc wrth law.
- Os ydych yn chwilio am lety gwyliau, gwiriwch pa mor agos yw'r gwesty neu'r llety gwely a brecwast at unrhyw atyniadau rydych am ymweld â nhw.
Sut gall Yell.com fy helpu? Defnyddiwch Yell.com i chwilio am Westai ar draws miloedd o leoliadau yn y DU, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Gyda Yell.com, dyw hi erioed wedi bod yn haws dod o hyd i'r union beth mae arnoch ei angen.
