Chwilio am werthwyr blodau yn y DU ar Yell.com
Bydd y canlyniadau'n ymddangos yn Saesneg
Gall blodau fod yn anrheg wych unrhyw adeg o'r flwyddyn neu gellir eu defnyddio i nodi achlysur arbennig neu drist. Gall gwerthwyr blodau lunio trefniant yn arbennig ar gyfer eich anghenion a mynd ag ef i leoliad penodol ar eich rhan.
Beth sydd gan werthwr blodau i'w gynnig i mi?
Mae blodau'n ddewis gwych yn lle anrheg draddodiadol, a gellir eu defnyddio i ddathlu neu nodi achlysuron arbennig. Bydd gwerthwr blodau'n dethol yr union flodau a fydd yn fwyaf addas at eich anghenion ac yn creu trefniant deniadol ohonynt. Gellir defnyddio blodau nid yn unig fel anrheg, ond hefyd i addurno'ch cartref ac i ddathlu'r newid yn y tymhorau. Gall gwerthwr blodau hefyd ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut mae gofalu am eich blodau a'u cadw'n ffres.
Awgrymiadau defnyddiol
Wrth ddewis gwerthwr blodau, efallai y byddwch am ystyried y cyngor hwn:
- Mae blodau'n anrheg wych ar gyfer pen-blwyddi, yn enwedig gan y gall trefniant gynnwys blodau arbennig ar gyfer y pen-blwydd neu flodau sy'n gysylltiedig ag arwydd y sawl sy'n eu derbyn ar y Sidydd, er enghraifft:
- Gallai trefniant ar gyfer pen-blwydd ym mis Hydref gynnwys rhuddos neu, i Sgorpio, proceri poeth (kniphofia uvaria);
- Dylai gwerthwyr blodau cyffredinol fedru darparu ar gyfer pen-blwyddi a rhoi cyngor pellach ar beth i'w gynnwys mewn trefniant;
- Os byddwch yn y sefyllfa drist o orfod anfon blodau angladd, cysylltwch â'ch gwerthwr blodau lleol, gan y dylai fod ganddynt lawer o brofiad o ddarparu trefniant o'r fath. Fel arall, mae gwerthwyr blodau ar gael sy'n arbenigo yn y maes hwn;
- Dylai gwerthwr blodau lleol fedru rhoi cyngor i chi ar y mathau o flodau i'w cynnwys mewn trefniant angladd a bod yn hyblyg o ran eu hanfon nhw.
Sut gall Yell.com fy helpu?
I gael hyd i'r gwerthwr blodau mwyaf addas i chi, neu ar gyfer achlysur arbennig penodol, y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw teipio eich lleoliad yn y DU yn y blwch chwilio uchod.
